Cartrefi CymruCartrefi Cymru
Helpwch gwneud rhywbeth da ddigwydd
Amdanom

Sefydlwyd Cartrefi Cymru fel elusen yn 1989 ac mae wedi tyfu i’r fath raddau fel ein bod bellach yn cyflogi dros 1,200 o bobl ledled Cymru.

Mae rhai staff yn darparu gwasanaethau gweinyddol hanfodol o’n deuddeg swyddfa, sydd i gyd yn meddu ar rwydweithiau TGCh a chyfleusterau cyfarfod.

Mae mwyafrif ein staff yn rhoi cymorth uniongyrchol i bobl ag anableddau dysgu, neu anghenion arbennig eraill, yn eu cymunedau lleol.

Fel arfer, mae hyn yn golygu darparu cymorth 24 awr y dydd i gynorthwyo pobl yn eu cartrefi eu hunain. Ond, rydym hefyd yn darparu cymorth sesiynol i bobl sydd ond angen ychydig o help, neu sy’n byw gyda’u teuluoedd.

Rydym hefyd yn darparu cyfleoedd i bobl gymryd saib byr oddi cartref, a gall hyn roi ychydig o amser rhydd i ofalwyr teuluol a chyfle i ymlacio.

Ein her

Mae ein holl waith wedi’i seilio ar ymrwymiad i greu cymdeithas lle y bydd pawb yn mwynhau hawliau a chyfrifoldebau llawn fel dinasyddion. Rydym yn credu mewn parchu pobl, gweld pawb fel unigolyn unigryw a chynorthwyo pobl i gyflawni eu huchelgais, megis mwy o annibyniaeth neu rwydwaith ehangach o ffrindiau.

Ond yn aml, mae’r bobl rydym yn eu cynorthwyo yn wynebu rhwystrau enfawr. Gall eu hanableddau ei wneud yn anodd cyflawni rhai tasgau cyffredin ac mae ar rai angen cymorth gyda phethau sylfaenol megis gwisgo, bwyta, gofal personol, gwaith ty, siopa neu gynllunio gwyliau.

Yn ogystal, bydd pobl yn wynebu agweddau negyddol a rhwystrau o fewn y gymdeithas. O ganlyniad, mae ein gwaith yn aml yn cynnwys helpu cymdogion a chymunedau lleol i fod yn gadarnhaol ac yn groesawgar.

Rydym bob amser yn ymdrechu i gyflawni orau y gallwn. Felly peidiwch â chamddeall: gall gweithio i ni fod yn her. Ond fe welwch ei fod yn cynnig cyfleoedd dirifedi a gwir wobrau, i chi a’r bobl y byddwch yn eu cynorthwyo.

Mynnwch olwg ar ein taflen newyddion reolaidd i’r bobl rydym yn eu cynorthwyo, People’s Pages/Papur y Bobl, a enillodd wobr Cyfathrebu gan TPAS Cymru yn 2006.

Version: 1.6.2606.22446 Cartrefi Cymru