Yn ddiweddar mae Cartrefi Cymru wedi cael dyfarniad ISO9001 wrth ymgeisio amdano am y tro cyntaf. Achrediad ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol yw hwn, sy’n dangos ein hymrwymiad parhaus i ragoriaeth.
Y buddion
Datgelodd arolwg diweddar o foddhad y staff fod 87% o’r bobl a ymatebodd yn falch o weithio i Cartrefi Cymru, ac y byddai 84% yn argymell Cartrefi Cymru fel lle da i weithio.
Cyflogau
Yn Cartrefi Cymru rydym yn cynnig cyflogau sy’n gystadleuol iawn yn y sector cymorth. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y swyddi gwag sydd gennym ar hyn o bryd yn adran swyddi’r wefan hon.
Taliadau am sifftiau cysgu drosodd
Hefyd mae gan staff sy’n gweithio mewn gwasanaethau lle mae gofyn iddynt “gysgu drosodd” hawl i lwfans o £24.10 ar nosweithiau’r wythnos a £27.10 ar benwythnosau.
Pensiwn
Byddwn yn talu 6% o’ch cyflog gros i gynllun pensiwn, p’un a ydych yn dewis gwneud cyfraniad ychwanegol ai peidio.
Gwyliau Blynyddol/Cyhoeddus
Mae pob cyflogai’n cael o leiaf 25 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn. Yn ogystal, ar ôl blwyddyn o wasanaeth, mae’r staff yn cael diwrnod ychwanegol bob blwyddyn hyd at uchafswm o 30 diwrnod. Byddwch hefyd yn cael wyth diwrnod arall o wyliau cyhoeddus, neu amser i ffwrdd yn eu lle.
Os bydd gofyn i chi weithio ar ŵyl gyhoeddus, cewch eich talu dwbl y gyfradd arferol fesul awr.
Cynllun Salwch y Cwmni
Mae gan Cartrefi Cymru gynllun salwch cwmni sy’n gynhwysfawr ac sy’n cynnig buddion cynyddol wrth i hyd eich gwasanaeth gynyddu.
Iechyd a Diogelwch
Rydym yn ymfalchïo bod gennym bolisi Iechyd a Diogelwch cadarn, ac mae iechyd, diogelwch a lles ein cyflogeion a’n defnyddwyr gwasanaethau’n hollbwysig bob amser.