Mewngofnodi
|
Cofrestru
English
Cartref
Amdanom
Gweithio gyda ni
Buddion
Hyfforddi a Datblygu
Proffiliau
Rhestr Digwyddiadau
Rhestr Swyddi
DATGANIAD CYFLE CYFARTAL
Mae Cartrefi Cymru wedi ymrwymo i egwyddor cyfle cyfartal ym maes cyflogaeth.
Yn unol â hyn, bydd y rheolwyr yn sicrhau bod gweithdrefnau recriwtio, dethol, hyfforddi, datblygu a dyrchafu yn golygu na fydd unrhyw ymgeisydd am swydd na chyflogai’n cael ei drin/thrin yn llai ffafriol ar sail hil, lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, crefydd neu gredoau, anabledd, aelodaeth neu ddiffyg aelodaeth undeb llafur, rhyw, tueddfryd rhywiol, statws priodasol, oed, na gweithio rhan-amser neu lawn-amser. Yr amcan yw sicrhau y caiff unigolion eu dethol, eu dyrchafu a’u trin mewn unrhyw ffordd arall ar sail eu haddasrwydd, sgiliau a galluoedd yn unig.
Gan y rheolwyr mae’r prif gyfrifoldeb am gyrraedd yr amcanion hyn trwy:
• beidio â gwahaniaethu yng nghwrs eu gwaith yn erbyn cyflogeion nac ymgeiswyr am swyddi;
• peidio â chymell na cheisio cymell pobl eraill i wahaniaethu’n anghyfreithlon; a
• pwysleisio i’r cyflogeion y cymerir camau yn eu herbyn o dan y Weithdrefn Disgyblu a Diswyddo am gamwahaniaethu o unrhyw fath.
Cyfrifoldeb y cyflogeion unigol yw sicrhau eu bod yn cynorthwyo Cartrefi Cymru i gyrraedd yr amcanion hyn. Gallant gyfrannu trwy:
• beidio â gwahaniaethu yng nghwrs eu gwaith yn erbyn cydweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth, cyflenwyr nac aelodau’r cyhoedd y dônt i gysylltiad â hwy yn eu dyletswyddau;
• peidio â chymell na cheisio cymell pobl eraill i wahaniaethu’n anghyfreithlon; a
• rhoi gwybod am unrhyw gamwahaniaethu i’r Cyfarwyddwr priodol neu i’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol.
I gyflawni’r amcanion hyn mae angen cyfraniad gan bawb ac mae dyletswydd ar bob cyflogai i roi gwybod am unrhyw gamwahaniaethu y gwyr amdano.
Gall cyflogeion sydd o’r farn y gwahaniaethwyd yn anghyfreithlon yn eu herbyn godi’r mater trwy’r Weithdrefn Achwyno.
Version: 1.6.2606.22446
Telerau defnyddio a phreifatrwydd
|
Cyfle cyfartal
|
Cysylltwch â ni
|
Gwefan Gorfforaethol