Cartrefi CymruCartrefi Cymru
Helpwch gwneud rhywbeth da ddigwydd

Telerau Defnyddio’r Wefan a Datganiad Preifatrwydd

Telerau Defnyddio’r Wefan a Datganiad Preifatrwydd Mae’r wefan hon wedi ei dylunio, ei hadeiladu a’i gwesteia gan TMP Worldwide Limited ("TMP") ar ran Cartrefi Cymru. Drwy ddefnyddio neu fynd i unrhyw ran o’r wefan hon rydych yn cytuno i gael eich cyfrwymo gan y telerau ac amodau canlynol.

Bydd TMP a Chartrefi Cymru yn gwneud eu gorau glas i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ond nid ydynt yn gwneud unrhyw ddatganiadau na gwarantau ynghylch cywirdeb ac nid ydynt yn derbyn dim cyfrifoldeb am y cyfryw.

Mae hawlfraint a deunydd y wefan hon yn eiddo i Gartrefi Cymru ac maent wedi’u diogelu gan gyfreithiau hawlfraint y Deyrnas Unedig. Bydd hawl gan y defnyddwyr i gopïo unrhyw wybodaeth o’r fath at eu diben personol eu hunain ond ni chânt ailgyhoeddi, trosglwyddo, storio, atgynhyrchu, cyfathrebu na rhoi ar gael i’r cyhoedd unrhyw wybodaeth o’r fath mewn unrhyw ffordd.

I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd TMP na Chartrefi Cymru yn gyfrifol o gwbl am unrhyw golled uniongyrchol nac anuniongyrchol, iawndal, cost, traul na hawliadau boed o dan y gyfraith contract neu’r gyfraith camwedd (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i esgeulustod) neu sydd fel arall yn tarddu o gamddefnyddio cynnwys eich cais gan drydydd parti cyn, yn ystod neu ar ôl trosglwyddo’r cyfryw wybodaeth i’r recriwtiwr neu sydd fel arall yn tarddu o’r ffaith eich bod wedi defnyddio’r wefan neu fethu â defnyddio’r wefan neu’r wybodaeth neu’r gwasanaethau a geir arni.

Heb gyfyngiad i’r uchod ac i’r graddau a ganiateir ym mhob awdurdodaeth berthnasol nid yw TMP na Chartrefi Cymru yn rhoi unrhyw warant, yn benodol neu drwy oblygiad, ynghylch y wefan hon na’i chynnwys, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw warantau ynghylch diffyg tresmasu. Ni fydd dim yn y telerau ac amodau hyn yn eithrio nac yn cyfyngu ar atebolrwydd TMP na Chartrefi Cymru am farwolaeth neu anaf personol sy’n tarddu o’u hesgeulustod neu esgeulustod unrhyw un/rai o’u swyddogion, cyflogeion neu asiantau neu unrhyw atebolrwydd arall y’u gwaherddir rhag ei eithrio neu gyfyngu arno gan y gyfraith.

Nid yw TMP na Chartrefi Cymru yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau cysylltiedig ac nid ydynt o angenrheidrwydd yn cymeradwyo’r safbwyntiau a fynegir ynddynt. Ni ddylid cymryd bod eu rhestru’n gymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni all TMP na Chartrefi Cymru warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio bob amser ac nid oes ganddynt unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig.

Os yw unrhyw un/rai o’r telerau ac amodau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu’n anorfodadwy, ni fydd hynny’n effeithio ar ddilysrwydd na gorfodadwyedd y telerau ac amodau eraill.

Bydd y berthynas rhyngoch chi a TMP a Chartrefi Cymru yn cael ei rheoli gan gyfraith Lloegr ac rydych yn cytuno i gyflwyno pob anghydfod i awdurdodaeth llysoedd Lloegr.

Caiff data personol ei gasglu oddi wrthych pan wnewch gais ar lein a chaiff eich data personol ei ddefnyddio i reoli’ch cofrestriad a’ch cais. Bydd TMP a Chartrefi Cymru’n defnyddio’ch gwybodaeth at ddibenion gweinyddu’r gwasanaethau mewn cysylltiad â’r wefan hon.

Caiff data personol ei brosesu’n deg ac yn gyfreithlon, yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Cymerir camau rhesymol a phriodol i sicrhau y caiff eich data personol (gan gynnwys y wybodaeth yn eich CV/ffurflen gais) ei ddiogelu rhag ei gweld neu ei newid heb awdurdod, ei ddinistrio’n anghyfreithlon a’i ddefnyddio’n amhriodol. Fodd bynnag, system agored yw’r rhyngrwyd ac nid yw TMP na Chartrefi Cymru yn gallu gwarantu nac yn gwarantu na fydd y wybodaeth bersonol yr ydych wedi’i chyflwyno’n cael ei rhyng-gipio gan eraill a’i dadgriptio.

Ni fydd unrhyw wybodaeth a roddir gennych drwy’r wefan hon ar gael i drydydd partïon.

Caiff gwybodaeth cyfle cyfartal ei chadw ar wahân ac ni fydd iddi unrhyw ran yn y broses dethol. Ni chaiff data personol ei drosglwyddo i wlad na thiriogaeth y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich ffurflen gais yn gywir a’i bod yn cael ei diweddaru. Os bydd unrhyw ran o’r wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi yn newid, gadewch i ni wybod y manylion cywir trwy gysylltu â Gweinyddwr Personél ar y rhifau ffôn canlynol:

      Y Gogledd a Chaerdydd          029 20 642278

      Y Canolbarth                           029 20 642258

      Y De (ac eithrio Caerdydd)      029 20 647090

Os ydych yn rhoi manylion canolwr, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y person hwnnw’n gwybod eich bod wedi anfon ei fanylion a’i fod yn fodlon i chi wneud hynny.

Ni chaiff data personol ei gadw ond cyhyd ag y bo angen at y diben y’i rhoddwyd ato, ac ni chaiff ei gadw ond am 24 mis ar ôl i unrhyw gais a wnaethoch gael ei gwblhau.

Os caiff ein hymrwymiad ar breifatrwydd ei newid, bydd y cyfryw newidiadau’n cael eu postio yma fel y byddwch bob amser yn gwybod pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu, sut mae’r cyfryw wybodaeth yn cael ei defnyddio ac a fydd y cyfryw wybodaeth yn cael ei datgelu i unrhyw un. Os oes gennych gwestiynau neu bryderon ar unrhyw adeg am ein hymrwymiad ar breifatrwydd, mae croeso i chi gysylltu â ni yn TMP Worldwide, Chancery House, 53-64 Chancery Lane, London WC2A 1QS.

Drwy gyflwyno’ch gwybodaeth bersonol, rydych yn cytuno i’ch gwybodaeth gael ei defnyddio fel y nodir yn y Datganiad hwn.

Version: 1.6.2606.22446 Cartrefi Cymru