Mewngofnodi
|
Cofrestru
English
Cartref
Amdanom
Gweithio gyda ni
Buddion
Hyfforddi a Datblygu
Proffiliau
Digwyddiad Recriwtio
Rhestr Swyddi
Dysgu a Datblygu
Pan fyddwch yn dod i weithio i Gartrefi Cymru, byddwch yn cael rhaglen hyfforddiant sefydlu gynhwysfawr gyda’r holl sgiliau craidd y gall fod arnoch eu hangen, a bydd hyn yn cael ei ddilyn gan hyfforddiant mewn swydd parhaus a chymorth i gael cymhwyster perthnasol.
I Weithwyr Cymorth, y cymhwyster perthnasol fyddai NVQ lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Byddai rheolwyr yn dilyn NVQ lefel uwch neu gymhwyster tebyg, a byddai’n staff swyddfa arbenigol yn cael help i ddilyn cymhwyster proffesiynol priodol.
Rydym yn cynorthwyo staff sydd angen defnyddio cyfrifiadur ar gyfer eu gwaith i gael tystysgrif ECDL.
Rydym hefyd newydd droi’n ddarparwr cwrs Sgiliau Sylfaenol er mwyn cynorthwyo’n staff a all fod angen cymorth gyda rhifedd neu lythrennedd.
Mae ein Canolfan Datblygu Staff wedi ei hachredu gyda City & Guilds ac rydym yn cael adroddiadau arolygu ardderchog yn rheolaidd.
Drwy gydol pob blwyddyn, byddwn yn rhedeg rhaglen hyfforddi gynhwysfawr sy’n cynnwys amrediad eang o bynciau perthnasol. Rydym hefyd yn rhedeg ein cynadleddau staff ein hunain, sy’n llawn gweithdai a chyflwyniadau diddorol.
Mae gennym ymrwymiad gwirioneddol i ddatblygu staff. Mae’n ffaith bod y rhan fwyaf o’n rheolwyr gweithredol wedi dechrau eu gyrfa gyda Chartrefi Cymru fel Gweithwyr Cymorth, a dechreuodd nifer o reolwyr swyddfa gyda ni mewn swyddi nad oeddent yn swyddi rheoli.
Ac nid dim ond ymffrostio yw hyn ar ein rhan ni. Mewn arolwg diweddar o foddhad staff sawl asiantaeth, a wnaed gan AF Associates, 2005, ni gafodd y sgôr uchaf o ran Datblygu Staff a Chyfathrebu â Staff, a’r sgôr ail uchaf mewn Arddull Rheoli.
Telerau defnyddio a phreifatrwydd
|
Cyfle cyfartal
|
Cysylltwch â ni
|
Gwefan Gorfforaethol