Cartrefi CymruCartrefi Cymru
Helpwch gwneud rhywbeth da ddigwydd

Gweithio gyda ni

Mae Cartrefi Cymru wedi ymrwymo 100 i ymdrin yn iawn â’i weithlu, a hynny am reswm da iawn: Heb staff dibynadwy, medrus a brwd, fyddwn ni ddim yn gallu ymdrin yn iawn â’r bobl rydym yn eu cefnogi.

Nid yw cefnogi pobl sydd ag anableddau cymhleth i fyw bywyd cyflawn mewn byd sydd ymhell o fod yn berffaith, yn dasg hawdd. Ac rydym am ei wneud yn wych. Mae hynny’n golygu recriwtio’r staff gorau a’u cadw.

Mae’n buddsoddiad mewn staff yn dechrau gyda’n gwerthoedd: Rydym yn parchu ac yn ymbweru staff fel y byddant yn parchu ac yn ymbweru’r bobl maen nhw yn eu cefnogi.

Os byddwch yn gweithio gyda ni:
  • Byddwch yn derbyn hyfforddiant cyflwyno a hyfforddiant parhaus wrth weithio
  • Byddwch yn cael cymorth i dderbyn cymhwyster perthnasol
  • Byddwch yn cael cyfarfodydd ‘cefnogi a goruchwylio’ rheolaidd gyda’ch rheolwr llinell a gwerthusiad blynyddol.
  • Byddwch yn aelod o dîm sy'n cyfarfod yn rheolaidd i drafod cynnydd ac i gefnogi'ch gilydd
  • Byddwch yn cael eich hysbysu’n rheolaidd am ddatblygiadau’r cwmni a byddwn yn gofyn am eich barn, ac yn ei gwerthfawrogi
  • Bydd eich iechyd a’ch diogelwch yn cael ei ystyried o ddifrif
  • Byddwch yn cael eich trin yn deg ac yn cael eich amddiffyn rhag camwahaniaethu neu harasio
  • Byddwch hefyd yn mwynhau cyfraddau tâl cystadleuol a haeddiannau positif eraill
Beth am fwrw golwg ar ein taflen newyddion i’r staff, Ymlaen, sy’n cynnwys cyfraniadau gan staff ar bob lefel. Dyma un o’r dulliau rydym yn eu defnyddio i sicrhau bod y staff yn cael gwybodaeth gyfredol ar faterion a mentrau.

Amgraffiad diwethaf Ymlean
Version: 1.6.2606.22446 Cartrefi Cymru